Cliciwch yma i weld ein cyfryngau a chyhoeddiadau.
Cefndir
Datblygwyd batri MABEL dros dair blynedd (2008 – 2011) fel rhan o astudiaeth draws-ieithyddol, arhydol, ar raddfa fawr, o ddatblygiad llythrennedd cynnar yn y Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Tsieceg a Slofaceg, o fewn ELDEL (Gwella Datblygiad Llythrennedd mewn Ieithoedd Ewropeaidd). Ariannwyd y project gan Marie Curie – Rhwydwaith Hyfforddiant Cychwynnol, rhaglen y seithfed fframwaith (FP7/2007-2013) o dan y cytundeb grant rhif .215961. Prif nod y project oedd egluro rhagfynegwyr gwybyddol, ieithyddol ac amgylcheddol craidd datblygiad llythrennedd plant o’r cyfnod derbyn (kindergarten) hyd at flwyddyn 2 (second grade). Cynhaliwyd pum astudiaeth gyfochrog, un ymhob gwlad. Dechreuodd y gwaith ar y prosiect MABEL yn 2015, a chafodd ei ledaenu’n rhyngwladol yn 2018. Ar hyd o bryd mae deunyddiau profion ar gael yn Saesneg, Sbaeneg, Tsiec, Slofaceg a Chymraeg, a bydd Ffrangeg yn dilyn yn fuan. Yn ogystal, mae fersiynau Portiwgaleg a Pwyleg o’r batri yn cael eu datblygu.
Cynnwys
Mae MABEL yn cynnwys 15 asesiad pwysicaf a mwyaf sensitif llythrennedd cynnar, fel y dilyswyd ym mhob iaith y project ELDEL. Un nodwedd unigryw batri MABEL yw bod pob prawf wedi’i greu i fod yn gyfochrog (modd cymharu’n uniongyrchol) ar draws ieithoedd. Y sgiliau a asesir yw: gwybodaeth am lythrennau, ymwybyddiaeth o ffonemau, ac enwi’n gyflym, yn ogystal â darllen a sillafu.
- Tasg Dileu Ffonemau
- Tasg Ynysu Ffonemau
- Tasg Cyfuno Seiniau
- Tasg Sillafu Geiriau Sylfaenol
- Tasg Sillafu Geiriau Graddedig
- Tasg Sillafu Ffugeiriau
- Tasg Darllen Geiriau Am Funud
- Tasg Darllen Ffugeiriau Am Funud
- Tasg Paru Llun a Gair
- Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Lliwiau
- Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Gwrthrychau
- Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Digidau
- Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Llythrennau
- Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Enwi Llythrennau
- Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Ysgrifennu Llythrennau
Hyd yma, cyhoeddwyd pedwar prif bapur, lle defnyddiwyd y profion hyn mewn cymariaethau rhyng-ieithyddol (Caravolas et al., 2012; 2013; 2017; 2019).
Mae cyhoeddiadau ychwanegol am yr offeryn MABEL yn cynnwys:
Mikulajová, M. (2019). MABEL – multijazyková batéria testov ranej gramotnosti, založená na dôkazoch [MABEL – Multilanguage Assessment Battery of Early Literacy – An evidence-based tool]. Psychológia a patopsychológia dieťaťa, 53, 2019, 2, 134–146.
Sut i ddefnyddio’r wefan
O dan y tab PROFION, gallwch ddod o hyd i wahanol fersiynau iaith o’r batri. Gellir gweld y rhain trwy glicio ar faner yr iaith yr hoffech ei defnyddio. Er mwyn cael mynediad at y fersiynau papur a phensil o’r deunyddiau hyn, plîs ewch i’r tab ‘MEWNGOFNODI/COFRESTRU’ a chofrestru i danysgrifio i ddefnyddio prawf MABEL. Mae fersiynau o’r prawf ar gyfer gweinyddu ar gyfrifiadur yn cael eu datblygu.
Diolchiadau
Roedd y tîm a gydweithiodd ar y Pecyn Gwaith ELDEL gwreiddiol (WP1) a arweiniodd at fatri prawf MABEL yn cynnwys yr Uwch Wyddonwyr Markéta Caravolas (Cydlynydd Project), Denis Alamargot, Sylvia Defior, Michel Fayol, Charles Hulme, Marína Mikulajová, Gabriela Seidlová Málková; Ymchwilydd Profiadol Petroula Mousikou, Ymchwilwyr Cyfnod Cynnar Corina Effrim, Miroslav Litavsky, Eduardo Onochie, Naymé Salas, Miroslava Schöffelová. Dyma restr o’r Prifysgolion â gyfranwyd: Prifysgol Bangor, Cymru, PF; Prifysgol o Poitiers, FR; Prifysgol o Granada, SP; Prifysgol Blaise Pascal, Clermont Ferrand, FR; Prifysgol Efrog, PF; Prifysgol Comenius yn Bratislava, SK, Prifysgol Charles, CZ. Uwch Wyddonwyr Cysylltiedig ac Ymweld a gyfrannodd at y prosiect WP1 oedd Arne Lervåg , Prifysgol Oslo, NO; a Brett Kessler, Prifysgol Washington, US.
Am gyfeiriadau, ewch i’n tudalen cyhoeddiadau.
Dyfynnu a Chyfeirnodau
Er mwyn dyfynnu gwefan MABEL, plîsdefnyddiwch y cyfeirnod canlynol:
Caravolas, M., Mikulajová, M., Defior, S., & Seidlová Málková, G. (2019). Multilanguage Assessment Battery of Early Literacy. MABEL. https://www.eldel-mabel.net/
Er mwyn dyfynnu fersiwn o’r profion o unrhyw iaith wahanol, plîs ewch i’w tudalen “Sut i ddyfynnu MABEL”.
Er mwyn dyfynnu profion Cymraeg unigol, plîs defnyddiwch y cyfeirnod canlynol:
Caravolas, M., Mikulajová, M., Defior, S., & Seidlová Málková, G. (2018). Multilanguage Assessment Battery of Early Literacy. MABEL. https://www.eldel-mabel.net/cy/test/
Ar gyfer y cyfeirnodau, ewch i’n tudalen cyhoeddiadau.