Polisi Preifatrwydd Gwefan a Diogelu Data
Mae gwefan MABEL yn ddarostyngedig i Bolisi Preifatrwydd Prifysgol Bangor. Mae’r Brifysgol yn Rheolwr Data Cofrestredig fel y’i diffinnir gan Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd unrhyw fanylion personol a gesglir trwy’r wefan hon ac a ddarperir gennych yn cael eu prosesu yn unol â’r Ddeddf, a dim ond at y diben neu’r dibenion a nodir ar y tudalen berthnasol.
Efallai yr hoffech chi ymgynghori â pholisïau Prifysgol Bangor hefyd:
Yn ogystal fel cynnyrch WordPress, mae’r Polisi Preifatrwydd Automattic a Pholisi Cwcis yn berthnasol i’r wefan hon.
Preifatrwydd a Chwcis
Ar y rhan fwyaf o’r tudalennau ar ein gwefan swyddogol, rydym yn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr, gan gynnwys ymdrechion mewngofnodi anghywir a chyfeiriadau IP. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau gwefan MABEL. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd nad yw’n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy yw’r rhai sy’n ymweld â’n gwefan, oni bai eu bod yn gofyn am gofrestru gyda MABEL.
Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r wefan hon ag unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy o unrhyw ffynhonnell. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy trwy ein gwefan, byddwn yn dweud wrthych am hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ag ef. Enghraifft o hyn fyddai pan ddefnyddiwn ffurflen i’ch galluogi i gysylltu â ni gyda chais ynglŷn â chofrestru gyda MABEL.
Defnydd cwcis gan wefan MABEL
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi’n ymweld â nhw. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan. Trwy barhau i ddefnyddio gwefan MABEL rydych chi’n cytuno i’n defnydd o gwcis. Os penderfynwch analluogi cwcis yn eich porwr (e.e. trwy swyddogaeth Modd Preifat), yna gallwch barhau i ddefnyddio’r wefan ond efallai y bydd rhywfaint o ymarferoldeb hanfodol yn cael ei golli. Er enghraifft, ni fydd dewisiadau defnyddwyr yn cael eu cadw os yw cwcis wedi eu analluogi, ac efallai na fydd rhai rhannau o’r wefan yn gweithredu yn ôl y bwriad.
Bydd y ddogfennaeth ar gyfer eich porwr gwe yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i analluogi cwcis, hefyd, gallech chi ymweld â’r dudalen we hon About Cookies.
Gweler y wefan ganlynol am wybodaeth bellach am gwcis http://www.allaboutcookies.org/manage-cookies/
Cwcis eraill ar ein gwefannau cyhoeddus
Wrth i ymarferoldeb a gwasanaethau newydd gael eu hychwanegu / integreiddio i’n gwefan efallai y bydd angen i ni ddefnyddio cwcis ychwanegol. Bydd y dudalen hon o’n gwefan yn cael ei diweddaru pan fyddwn yn defnyddio cwcis newydd neu pan fyddwn yn defnyddio categorïau newydd o gwcis.