Tasg Dileu Ffonemau
Caravolas, M., Mikulajová, M., Defior, S., & Seidlová Málková, G. (2018). Multilanguage Assessment Battery of Early Literacy. MABEL. https://www.eldel-mabel.net/cy/test/
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ddyfynnu MABEL a chyfeirnodau.
Mae’r prawf hwn yn mesur sgiliau ymwybyddiaeth ffonolegol (hynny yw, trin sain lleferydd), yn arbennig, dadansoddi ffugeiriau sy’n wahanol o ran lefelau cymhlethdod ffonolegol. Y ffonemau a dargedir yw cytseiniaid cychwynnol (ffonemau cychwynnol) a chytseiniaid olaf (ffonemau olaf).
Ystod Oedran
Yn addas i blant ym Mlwyddyn 1 sy’n dangos meistrolaeth ( 80%) yn y prawf Ynysu ffonemau, ac ar gyfer plant rhwng 6 a 12 oed (hynny yw, Blynyddoedd 2 i 6 y DU).
Sgorio (Cywirdeb yn erbyn cyflymder)
Caiff cywirdeb a chyflymder eu mesur. Cywirdeb yw’r mesur mwy ystyrlon mewn unrhyw ran o’r prawf (Ffonemau Cychwynnol, Ffonemau Olaf, Cyfanswm) lle nad yw plant wedi cyrraedd meistrolaeth mewn cywirdeb ( 80%) hyd yma. Mae mesur cyflymder yn fwyaf ystyrlon i blant sydd wedi cyrraedd lefel meistrolaeth mewn cywirdeb.
Normau
Mae normau gradd ar gael yn awr i ddisgyblion Blwyddyn 2 am gywirdeb a chyflymder.
Deunyddiau gweinyddu
Dyfais recordio
Stopwats
Taflen Sgôr Dileu Ffonemau
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:
Fersiwn prawf: 3
Diweddarwyd: 12.03.21
Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.