Tasg Darllen Ffugeiriau Am Funud
Caravolas, M., Mikulajová, M., Defior, S., & Seidlová Málková, G. (2018). Multilanguage Assessment Battery of Early Literacy. MABEL. https://www.eldel-mabel.net/cy/test/
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ddyfynnu MABEL a chyfeirnodau.
Mae’r prawf hwn yn asesu effeithlonrwydd dadgodio mewn fformat darllen yn uchel am funud. Mae ffugeiriau yn ymddangos fel eitemau anghyfarwydd, diystyr ac felly mae’r darllenydd yn dibynnu’n bennaf ar ei wybodaeth am gyfatebiad sain llythrennau (graffem-ffonem) i ddadgodio rhes o lythrennau. Mae profion fel hyn yn aml yn cael eu hystyried fel ffyrdd defnyddiol o fesur prosesu ffonolegol, ac yn fwy penodol i fesur rhuglder dadgodio graffo-ffonemig.
Ystod Oedran
Mae’r prawf hwn yn addas i blant mewn Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6. Ond gyda darllenwyr ifanc iawn/amhrofiadol (Dosbarth Derbyn i ganol Blwyddyn 1), nid yw’n ychwanegu llawer o wybodaeth i’r prawf cyfatebol gyda geiriau go iawn (Tasg Darllen Geiriau Am Funud).
Sgorio (Cywirdeb, Camgymeriadau)
Cywirdeb: Caiff y prif sgôr am ddarllen yn uchel yn effeithlon ei gyfrifo trwy gyfrifo’r cyfanswm o ymatebion cywir (hynny yw, credadwy) (sy’n cynnwys hunangywiriadau) gaiff eu cynhyrchu mewn munud.
Camgymeriadau: Fel rheol ni ystyrir camgymeriadau fel sgorau annibynnol mewn profion effeithlonrwydd darllen. Fodd bynnag, at ddibenion clinigol, weithiau mae’n ddefnyddiol cymharu cyfradd camgymeriadau plentyn o gymharu â’i normau o ran oedran/gradd. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i fesur a yw plentyn yn ddarllenydd araf iawn ond cywir, p’un a yw’n darllen yn gyflym ond yn anghywir, neu’n araf ac yn anghywir. Caiff sgôr camgymeriadau ei gyfrifo yma trwy gyfrifo’r cyfanswm o eitemau gaiff eu cynhyrchu yn anghywir, yn ogystal ag eitemau gaiff eu pasio neu eu gwrthod.
Normau
Mae’r normau trawstoriadol ar gael ar gyfer blynyddoedd 1, 3, 4, 5, a 6.
Deunyddiau gweinyddu
Dyfais recordio
Stopwatsh
Taflen Sgorio Darllen Ffugeiriau
Cerdyn Darllen Ffugeiriau
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn fwyaf diweddar o’r prawf
Fersiwn prawf: 1
Fersiwn normau: 1
Wedi’i ddiweddaru : 17/03/2021
Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.