Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Ysgrifennu Llythrennau
Mae’r prawf hwn yn asesu gallu plant i ysgrifennu seiniau llythrennau y maent yn clywed. Gellir ei ystyried i fod yn ddangosydd o allu sillafu cynnar. Mae Ysgrifennu Llythrennau yn beth mwy cymhleth na Enwi Llythrennau, oherwydd mae angen adalw llythyren neu grŵp tebygol o lythrennau, actifadu ei ffurf orthograffig, a’i chynhyrchu’n ysgrifenedig ar daflen y prawf. Mae’r prawf yn cynnwys 15 llythyren: 5 llafariad a 10 cytsain. Nid yw’r prawf yn cael ei amseru a gellir ei gynnal yn unigol neu gyda grwpiau bach.
Ystod Oedran
Mae’r prawf yn addas ar gyfer plant Blwyddyn Derbyn a Blwyddyn 1, ac weithiau gall fod yn briodol ar gyfer plant hŷn sy’n profi anawsterau darllen a sillafu. Hefyd, er na fydd y rhan fwyaf o blant cyn-ysgol wedi dysgu’r wyddor yn ffurfiol, bydd llawer ohonynt yn gwybod rhai llythrennau a, hyd yn oed yn y cyfnod hwn, mae gallu’r plentyn i ysgrifennu llythrennau yn gallu bod yn ddefnyddiol i ragweld canlyniadau diweddarach o ran llythrennedd.
Sgorio: cywirdeb
Rhoddir dau bwynt am bob llythyren gywir sy’n cael ei gosod yn gywir; a rhoddir un pwynt am bob llythyren gywir sy’n cael ei gosod yn anghywir. Rhoddir 0 pwynt am atebion anghywir. Os yw’r plentyn yn gwrthod rhoi cynnig ar 6 eitem yn olynol, dylid rhoi’r gorau i’r prawf. Cyn belled â bod y plentyn yn barod i roi cynnig arni dylid parhau â’r prawf hyd y diwedd, ni waeth faint o gamgymeriadau sydd wedi eu gwneud.
Normau
Bydd gwybodaeth am normau Cymraeg ar gael yn fuan.
Deunyddiau gweinyddu
Taflen y Cyfranogwr a phensel neu ben (beth bynnag sy’n arfer cael ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth) i’r plentyn
Taflen Cyfarwyddiadau Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Ysgrifennu Llythrennau
Taflen Sgorio Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Ysgrifennu Llythrennau
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:
Fersiwn prawf: 3
Diweddarwyd: 12.03.21
Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.